Switch to English en_GB

Canon ar gyfer Datblygu Cymunedol
(Canghellor)

Mae Deon a Chabidwl Eglwys Gadeiriol Llandaf yng Nghaerdydd am benodi cydweithiwr newydd i ymuno â ni fel Canon ar gyfer Datblygu Cymunedol
(Canon Ganghellor).
Rydym yn chwilio am offeiriad doeth a all adeiladu ar seiliau rhagorol mewn addysg a magwraeth, a fydd nid yn unig yn bresenoldeb bugeiliol yn y Gadeirlan, ond a fydd yn galluogi holl aelodau cymuned y Gadeirlan i deimlo eu bod yn perthyn ac yn gallu tyfu yn y ffydd. Rydym yn chwilio am rywun sy’n gyffrous ac yn angerddol am weinidogaeth y gadeirlan, ac a fydd yn ymroddedig i weddïo beunyddiol gyda’r clerigwyr eraill, ac a fydd yn rhannu yn y rownd o wasanaethau rheolaidd ac arbennig, ac yn gallu arwain, llywyddu a phregethu ynddynt.

Am fanylion pellach a Phecyn Cais, ewch i
www.llandaffcathedral.org.uk/cy/work-with-us

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau – Dydd Gwener 21 Mawrth 2025
Cynhelir cyfweliadau ddydd Llun 7 Ebrill 2025