Arolwg Teithio a Ffordd
Yn ystod mis Mehefin, gofynnwyd i’n cynulleidfa gwblhau Arolwg Teithio a Ffordd o Fyw fel rhan o’n hymdrechion i gynnwys ein cymuned yn ein hymgais i ennill Gwobr Arian Eco Church ac annog sgyrsiau ynghylch ein hôl troed carbon unigol. Cawsom dros 60 o ymatebion, a gallwch ddarllen canlyniadau’r arolwg isod.
Captain Noah & His Floating Zoo
Yr wythnos hon croesawom 200 o blant o Ysgol Gynradd Baden Powell yng Nghaerdydd, Ysgol Gynradd Pontyclun ac ysgolion Parc Lewis a Maesycoed o Bontypridd a gymerodd ran mewn perfformiad o ‘Captain Noah and His Floating Zoo’ Fflandrys a Horowitz. Roedd y perfformiad yn ganlyniad prosiect deng wythnos a oedd yn cynnwys ymarferion wythnosol, awr … Continued
Cyfarfod Blynyddol Deon a Chabidwl Cadeirlan Llandaf 2024
Cynhelir y Cyfarfod Festri Blynyddol ynghŷd â Chyfarfod Blynyddol Deon a Chabidwl Cadeirlan Llandaf (Elusen Gofrestredig Rhif 1159090) nos Lun Mehefin 17eg am 7yh yng Nghorff y Gadeirlan. Gofynnir bod unrhyw gwestiwn parthed yr Adroddiad Blynyddol yn cael ei ddanfon at Geraint Williams, Prif Weithredwr geraintwilliams@llandaffcathedral.org.uk erbyn 6yh dydd Sul Mehefin 16eg.
DEON NEWYDD AR GYFER LLANDAF
Gan gofio pwysigrwydd rôl Deon i’r esgobaeth a’r Gadeirlan a phwysau interregnum yn y swydd hon, mae’r Esgob Mary wedi bod yn gweithio’n gyflym i benodi olynydd i’r Tra Pharchedig Richard Peers. Er y byddai’r Esgob yn gyffredinol o blaid proses recriwtio agored, mae ganddi hawl i benodi uwch glerigwyr. Ar ôl ymgynghori â’r Archesgob, … Continued
Y Deon yn ymddeol
Gyda thristwch mawr y cyhoeddwn ymddeoliad ein Deon, y Tra Pharchedig Richard Peers. Gallwch ddarllen datganiad llawn yr Esgob Mary isod. Daliwch y Tad Richard yn eich gweddïau wrth iddo ddechrau ar ei adferiad. Mae Deon Eglwys Gadeiriol Llandaf, Y Tra Pharchedig Richard Peers, wedi cyhoeddi ei fwriad i ymddeol. Mewn llythyr at Esgob Llandaf, … Continued
Lawnsiad ein gwefan Iaith-Gymraeg newydd
Mae’n bleser gennym lansio fersiwn Gymraeg gwefan y Gadeirlan. Mae’r Deon a’r Cabidwl wedi ymrwymo, fel elusen, i weithredu’n unol â pholisi Iaith Gymraeg yr Eglwys yng Nghymru. Ar hyn o bryd, rydym yn cydweithio gyda Chomisiynydd yr Iaith Gymraeg ar ddatblygu cynllun iaith fydd yn diwallu anghenion ein cynulleidfa amrywiol. I’r perwyl hwn, rydym … Continued
Cyhoeddi Canon Lleyg newydd
Pleser gan y Deon a’r Cabidwl gyhoeddi, yn dilyn proses recriwtio trwyadl a thryloyw, bod yr ymddiriedolwyr wedi cymeradwyo apwyntiad Hefin Owen yn Ganon Lleyg ac ymddiriedolwr i’r elusen. Fel cyfarwyddwr Rondo Media, mae Hefin yn gynhyrchydd radio a theledu adnabyddus iawn. Wedi graddio o Goleg Penfro, Caergrawnt, bu i Hefin ddechrau gweithio fel rheolwr … Continued