Mae CCCL yn gorff o aelodau etholedig sy’n cynrychioli’r Gadeirlan, gyda chadeirydd lleyg etholedig. Mae’r aelodau’n gymunwyr rheolaidd yn y Gadeirlan ac ar restr etholiadol y Gadeirlan. Mae’r clerigwyr a’r wardeniaid yn aelodau o’r Cyngor yn rhinwedd eu swydd. Mae’r cyngor yn cyfarfod chwe’ gwaith y flwyddyn.
Mae’r CCCL yn bont rhwng y Deon a’r Cabidwl, sydd â’r cyfrifoldeb cyfreithiol ac ariannol fel corff lywodraethol y Gadeirlan, a’r gynulleidfa. Mae cadeirydd y CCCL yn mynychu cyfarfodydd y Cabidwl. Mae’r CCCL yn cefnogi gwaith y Gadeirlan mewn sawl dull, ee:
- gwella cyfathrebu gydag aelodau’r gynulleidfa,
- cefnogi a meithrin corff gwirfoddoli’r Gadeirlan er mwyn sicrhau cynaladwyedd yr amryw dîmoedd,
- meithrin a thyfu cymuned y Gadeirlan,
- cyfrannu at yr awyrgylch o groeso a lletygarwch Cristnogol ac ysgogi ymwelwyr a thwristiaeth, a
- chefnogi a thyfu stiwardiaeth yn y Gadeirlan.
Cyngor Ieuenctid y Gadeirlan
Mae CIG yn cynrychioli’r plant a’r bobl ifainc sy’n rhan o gymuned y Gadeirlan. Gwelir o leiaf 150 o bobl ifainc yn mynychu’r gadeirlan ar fore Sul yn ystod tymor yr ysgol, nail ai yn yr Ysgol Sul neu yn y côr. Mae’r CIG yn cynnwys cynrychiolwyr o blith:
Merched y Côr
Bechgyn y Côr
Yr Ysgol Sul
Arweinwyr Ifainc yr Ysgol Sul.
Mae’r grŵp yn cyfarfod dair neu bedair gwaith y flwyddyn er mwyn sicrhau fod gan y bobl ifainc ‘lais’ o fewn cymuned y Gadeirlan. Mae enghreifftiau o’u gweithgareddau’n cynnwys:
- Dewis elusen Apêl y Grawys a’r Apêl Adfent
- Cynnal digwyddiadau i godi arian
- Dylunio llyfryn tywys ar gyfer plant a phobl ifainc
- Gwneud ceisiadau am newid yn arferion y Gadeirlan (ee darparu gofod gofal plant)
- Cynllunio a chynnal gweithgareddau teuluol ar gyfer y ‘Diwrnod Hwyl Teuluol’ sy’n rhan o Ŵyl y Gadeirlan
- Cymeryd rhan mewn prosiectau amgylcheddol yr Eco-Eglwys.
Mae un neu ddau o’r Cyngor Ieuenctid yn mynychu cyfarfodydd yr CCCL er mwyn adrodd am eu gweithgareddau. Mae’r Cyngor Ieuenctid yn cynnwys amser i archwilio’r Gadeirlan a’r fynwent a chael hwyl wrth ddod i adnabod yr adeilad yn well, ee ymweld ag ardaloedd ‘tu ôl i’r llenni’ megis yr ystafell canu-clychau a’r Tŵr clychau.