Majestas Kids
Grŵp cerddorol yw Majestas Kids i blant 7-11 oed. Ei nod yw datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth cerddorol plant drwy amrywiaeth o weithgareddau cerddorol gan gynnwys canu, gwaith rhythm, gemau a gweithgareddau creadigol. Cynigir cyfleoedd perfformio ar adegau yn ystod y flwyddyn. Mae’r grŵp hwn AM DDIM ac yn cael ei gynnal rhwng 10-11a.m ar fore Sadwrn yn ystod tymor yr ysgol. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol.
Cysylltwch â Rachel Kilby am fwy o wybodaeth yn rachelkilby@llandaffcathedral.org.uk
Majestas Consort
Côr gwirfoddol y Gadeirlan ar gyfer oedolion yw’r Majestas Consort. Maen nhw’n grŵp o tua 30 o gantorion amatur cyfeillgar sy’n perfformio 2-3 gwaith y tymor. Mae’r achlysuron hyn fel arfer yn cyd-fynd â gwleddoedd pwysig yng nghalendr y Gadeirlan, gan gynnwys gwasanaethau ar Ŵyl yr Holl Eneidiau, Dydd Mercher y Lludw, Sul y Dioddefaint a Chymun Cyntaf y Nadolig. Mae eu repertoire yn ymestyn o gerddoriaeth y dadeni hyd at weithiau’r 21ain Ganrif. Mae perfformiadau diweddar wedi cynnwys Requiems Gabriel Fauré, Maurice Duruflé a John Rutter, yn ogystal â gosodiad Bob Chilcott o Ddioddefaint Sant Ioan.
Mae’r amserlenni ymarfer yn hyblyg. Yn gyffredinol, mae Consort y Gadeirlan yn cwrdd i ymarfer ar ddau neu dri dydd Gwener cyn eu perfformiad. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â Chonsort y Gadeirlan, cysylltwch â’r Dirprwy Gyfarwyddwr Cerdd, Aaron Shilson, ar
e-bost: aaronshilson@llandaffcathedral.org.uk