Events calendar
Related content
Ein Newyddion Diweddaraf a Diweddariadau
Cyfarfod Blynyddol Deon a Chabidwl Cadeirlan Llandaf 2024
Cynhelir y Cyfarfod Festri Blynyddol ynghŷd â Chyfarfod Blynyddol Deon a Chabidwl Cadeirlan Llandaf (Elusen Gofrestredig Rhif 1159090) nos Lun Mehefin 17eg am 7yh yng Nghorff y Gadeirlan. Gofynnir bod unrhyw gwestiwn parthed yr Adroddiad Blynyddol yn cael ei ddanfon at Geraint Williams, Prif Weithredwr geraintwilliams@llandaffcathedral.org.uk erbyn 6yh dydd Sul Mehefin 16eg.
DEON NEWYDD AR GYFER LLANDAF
Gan gofio pwysigrwydd rôl Deon i’r esgobaeth a’r Gadeirlan a phwysau interregnum yn y swydd hon, mae’r Esgob Mary wedi bod yn gweithio’n gyflym i benodi olynydd i’r Tra Pharchedig Richard Peers. Er y byddai’r Esgob yn gyffredinol o blaid proses recriwtio agored, mae ganddi hawl i benodi uwch glerigwyr. Ar ôl ymgynghori â’r Archesgob, … Continued
Y Deon yn ymddeol
Gyda thristwch mawr y cyhoeddwn ymddeoliad ein Deon, y Tra Pharchedig Richard Peers. Gallwch ddarllen datganiad llawn yr Esgob Mary isod. Daliwch y Tad Richard yn eich gweddïau wrth iddo ddechrau ar ei adferiad. Mae Deon Eglwys Gadeiriol Llandaf, Y Tra Pharchedig Richard Peers, wedi cyhoeddi ei fwriad i ymddeol. Mewn llythyr at Esgob Llandaf, … Continued