Yn ei ddarlith i Gyfeillion Cadeirlan Llandaf yng Ngorffennaf 1950, bu i bensaer Newydd y Deon a’r Cabidwl, George Pace, nodi –
Yn y canol oesodd roedd gan Llandaff, fel sawl Cadeirlan nodedig arall bulpudwm a leolwyd ym mhen gorllewinol y côr. Nid oes unrhyw ôl ohono bellach ac nid oedd pulpudwm yn rhan o adferiad Prichard. Dyna wraidd y beirniadu fod Cadeirlan Llandaf yn debyg i Eglwys Blwyf fawr.
Dylid cuddio dirgewlch a dylai golygfa agor i olygfa arall; o’r foment y cyrhaeddwn y Gadeirlan, dylai’r siwrne at yr Allor Fawr fod yn gyfres o gamau a ddyluniwyd yn gynnil.
Roedd barn Pace yn cydfynd â barn y Deon Glyn Simon, a’i apwyntiodd, a chytunodd y Cabidwl y dylai rhyw fath o fwa fyddai’n sail i ran o’r organ o leiaf a byddai’n fodd i arddangos darn godidog o gelfyddyd cyfoes gael ei adeiladu lle buasai pulpudwm mewn dyddiau gynt, ond ni ddylai guddio’r olygfa ar hyd y Gadeirlan o’r llawr.
Cyflwynwyd dau gynllun gan Pace. Y cyntaf oedd ar gyfer baldacchino ar bedair colofn gyda murlun o destun priodol megis ‘Y Farnedigaeth Olaf’ oddi tano, yn sail i ran o’r organ ac uwchben allor sefydlog ar gyfer y corff. Yr arlunydd mewn golwg oedd Stanely Spencer.
Yr ail gynllun, oedd i ennill y dydd, oedd bwa concrid ar ffurf asgwrn-dymuniad ddwbwl o dan ddrwm gwag yn sail i ran ‘positive’ yr organ. Yr artist a grybwyllwyd i lunio delwedd ‘Crist yn ei Fawredd’ ar ochr orllewinol y drwm oedd Jacob Epstein.
Y bwriad oedd lleoli allor fach symudol rhwng coesau’r bwa. Roedd y syniad o gomisiynu unrhyw un o’r ddau artist cyfoes a dadleuol uchod yn destun twrf o brotest, yn debyg i pan gomisiynwyd aelodau o’r frawdoliaeth cyn-Rapaehlite yn y 19eg ganrif.
Llwyddodd y Deon a’r Cabidwl i ddod i ddealltwriaeth gyda’r Comisiwn Difrod Rhyfel y gellid defnyddio’r arian a glustnodwyd ar gyfer y gwydr lliw a gollwyd yn cael ei ddefnyddio i ariannu gwaith neu weithiau celf mewn cyfrwng arall, fel bod arian ar gael, yn rhannol ar gyfer castio’r ‘Majestas@ mewn aliwminiwm. Yn dilyn marowlaeth Sir Jacob Epstein ym 1959, penderfynwyd goreuro’r ffigwr plastr gwreiddiol a ddefnyddiwyd i gastio’r Majestas a’i symud i eglwys Riverside yn Efrog Newydd.
Saif y ffigwr 16 troedfedd o uchder. Mae’n pwyso 7 tunnell ac fe’i gastiwyd gan weithdy Morris-Singer yn Lambeth.
Ar noswyl ailgysegru Corff y Gadeirlan ar Ebrill 10fed 1957, roedd Bob Evans, ciwrat Newydd Llandaf yn eistedd yn dawel gydag Epstein. Trodd y cerflunydd at yr offeiriad ifanc a gofyn “Wel?”. Esboniodd Bob Evans yr hyn oedd yn gweld cyn ategu’n ddi-feddwl “Oedd hi’n anodd i chi fel Iddew i greu Crist ar gyfer cynulleidfa Gristnogol?” Atebodd Epstein “Gydol fy mywyd, dwi wedi chwilio am wirionedd a harddwch ac, yn y diwedd, dwi wedi’u darganfod yn y syniad o Grist.”
Nidy w Crist Llandaf yn edrych ar y gynulleidfa sydd wrth ei draed ond drwy’r gwydr clir yn y ffenest orllewinol i’r byd mawr y tu hwnt.