Gyda thristwch mawr y cyhoeddwn ymddeoliad ein Deon, y Tra Pharchedig Richard Peers. Gallwch ddarllen datganiad llawn yr Esgob Mary isod. Daliwch y Tad Richard yn eich gweddïau wrth iddo ddechrau ar ei adferiad.
Mae Deon Eglwys Gadeiriol Llandaf, Y Tra Pharchedig Richard Peers, wedi cyhoeddi ei fwriad i ymddeol.
Mewn llythyr at Esgob Llandaf, Mary Stallard, a ddarllenwyd yn uchel yn ystod gwasanaethau Sul y Pasg yn yr Eglwys Gadeiriol dywedodd y Deon: “Roeddwn i eisiau cadarnhau fy ymddeoliad fel Deon Eglwys Gadeiriol Llandaf, a rhannu fy newyddion yn uniongyrchol gyda’r gynulleidfa.
“Mae wedi bod yn fraint cael gweithio gyda’r Archesgob Andrew a’r Esgob Mary, ac rwy’n ddiolchgar iddyn nhw a phob aelod o’r Eglwys yng Nghymru am groesawu fy ngŵr Jim a minnau gyda’r fath garedigrwydd a chynhesrwydd.
“Bu’n fraint fawr gwasanaethu fel Deon Llandaf a rhannu ym mywyd y gynulleidfa hon.
Efallai bod rhai ohonoch yn ymwybodol bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol ac ar brydiau yn peri gofid. Gwnaed cwyn yn fy erbyn, a dilynodd proses hirfaith gan Eglwys Loegr. Daeth hyn i ben gyda Thribiwnlys Eglwysig yn gwrthod y gŵyn yn llawn ac yn dyfarnu bod fy onestrwydd a’m huniondeb yn ddilyffethair.
“Rwy’n parhau i weddïo dros bawb sy’n rhan o’r broses ac y cawn iachâd a heddwch.
“Er bod hyn bellach wedi’i ddatrys, rwyf wedi penderfynu bod yr amser yn iawn i mi ymddeol. Edrychaf yn ôl gyda llawenydd ar fy nhri degawd o weinidogaeth. Rwyf wedi cael fy mendithio i allu neilltuo cymaint o fy mywyd i fy ffydd a’r cymunedau yr wyf wedi byw a gweithio ynddynt, a dymunaf yn dda i’m holynydd a phawb yn Llandaf i’r dyfodol. Byddai Jim a minnau’n ddiolchgar am eich gweddïau yn yr amser hwn o newid ac yn nhymor nesaf ein bywyd.”
Wedi’i eni yn Chesterfield, Swydd Derby, hyfforddodd y Tra Pharchedig Richard Peers a gweithiodd fel athro cyn cael ei ordeinio yn 1993. Daeth yn Is-ddeon yn Eglwys Crist, Rhydychen ym mis Medi 2020; cyd-sefydliad o goleg Prifysgol Rhydychen, ac eglwys gadeiriol Esgobaeth Rhydychen. Cyn symud i Rydychen, Richard oedd Cyfarwyddwr Addysg Esgobaeth Lerpwl a Phrif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Ysgolion Esgobaeth Lerpwl. Mae wedi arfer gweinidogaeth gyfun mewn addysg ac fel offeiriad ers tro.
Mae’r Tad Richard wedi bod yn Ddeon Llandaf ers Tachwedd 2022 ac mae’n byw gyda’i ŵr Jim, awdur gerddi, a’u ci Teilo.
Ysgrifenna’r Esgob Mary mai gyda thristwch mawr y mae hi wedi derbyn ymddiswyddiad Richard. Meddai: “Bydd greddf Richard i (yn llythrennol) agor drysau’r eglwys gadeiriol a thyfu ymdeimlad o groeso gweddigar yn aros gyda ni fel rhan bwysig o’n gweinidogaeth barhaus. Byddwn yn gweld eisiau ei gyfeillgarwch, ei gyngor doeth yn yr esgobaeth a’i letygarwch cynnes, a Jim.
Ymhellach i hyn, dywedodd yr Esgob Mary: “Rwy’n gweithio’n galed ar gynllun ar gyfer arweinyddiaeth y Gadeirlan yn y dyfodol, ac rydym yn gobeithio gallu gwneud cyhoeddiad am hyn yn fuan iawn. Rwyf mor ddiolchgar am waith caled y tîm cyfan yma ac rwyf wedi gofyn i’r Canon Jan van de Lely gamu i rôl Deon Dros Dro yn y Gadeirlan am y misoedd nesaf.
“Byddwn yn siarad â Richard am sut y gallwn gynnig ffarwel briodol iddo ef a Jim maes o law. Daliwch ati i weddïo dros Richard a Jim, dros dîm y Gadeirlan ac am i obaith a heddwch dathliad y Pasg fod yn hysbys yn ein holl galon.”
Mae’r Esgob Mary wedi gofyn i’r Canon Ganghellor, y Canon Jan van der Lely, fod yn Ddeon Dros Dro’r Gadeirlan cyn sefydlu Deon newydd.