Mae’n bleser gennym lansio fersiwn Gymraeg gwefan y Gadeirlan.
Mae’r Deon a’r Cabidwl wedi ymrwymo, fel elusen, i weithredu’n unol â pholisi Iaith Gymraeg yr Eglwys yng Nghymru. Ar hyn o bryd, rydym yn cydweithio gyda Chomisiynydd yr Iaith Gymraeg ar ddatblygu cynllun iaith fydd yn diwallu anghenion ein cynulleidfa amrywiol. I’r perwyl hwn, rydym wedi ariannu’r garreg filltir nodedig hon drwy gyfieithu a datblygu Fersiwn Gymraeg ein gwefan. Diolch i Christopher Preece am y gwaith technegol tu ôl i’r llenni ac i Dorian Morgan am ei gymorth gyda’r cyfieithu.