Geraint Williams, Prif Weithredwr
Geraint yw Prif Weithredwr Deon a Chabidwl Llandaff, yr elusen sy’n gyfrifol am redeg y Gadeirlan. Astudiodd Geraint Cyfraith Lloegr a Chyfraith Ffrainc ym Mhyrifysgol Manceinion ac Université de Bourgogne.
Wedi gweithio fel Ymgynghorydd Polisi i Gymdeithas y Cyfreithwyr, bu i Geraint redeg cwmni hyfforddiant cyfreithiol ac fe’i gyflogwyd dan gytundeb Llywodraeth Cymru i ddarparu cyngor ar lywodraethiant a chydymffurfiaeth i fusnesau preifat a’r trydydd sector. Mae e’n gerddor amatur iawn.
Krisi Hillebert, Rheolwr Swyddfa
Daw Krisi â myrdd o brofiad gweinyddol, yn fwyaf diweddar wedi gweithio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol St Andrew’s. Krisi sy’n rheoli system ChurchSuite, mae’n cydweithio gyda’r tîm ar drefnu digwyddiadau mewnol ac allanol ac yn rheoli dyddiadur y Deon, yn ogystal â darparu cefnogaeth weinyddol i’r offeiriadon a’r Ysgol Sul.
Os bydd i chi alw’r swyddfa, Krisi yw’r llais Americanaidd llawen ar ben arall y ffôn. Mae’n frwd o blaid materion amgylcheddol ac yn treulio’i hamser yn darllen, garddio llysio a cherdded gyda’i gŵr a’i merch.
Christopher Preece, Pennaeth Cysylltiadau Rhanddeiliaid
Ymunodd Christopher â’r Gadeirlan yn 2013 ar ôl astudio Diwynyddiaeth a Saesneg ym Mhrifysgol Aberdeen.
Chris oedd yn bennaf gyfrifol am ddatblygu’r wefan newydd, mae’n rheoli cyfryngau cymdeithasol y Gadeirlan ac yn gyfrifol am ffrydio’r gwasanaethau ar Youtube. Mae’n cydweithio â’r tîm i drefnu digwyddiadau ar gyfer y myrdd o sefydliadau sy’n defynddio’r Gadeirlan yn wythnosol. Chris, fel arfer, yw’r cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau ebost.
Olivia Moore, Pennaeth Marchnata a Digwyddiadau
Mae gan Olivia berthynas hir gyda’r Gadeirlan, gan ddechrau fel aelod o’r côr ym 1998. Olivia sy’n trefnu Gŵyl y Gadeirlan, yn canolbwyntio ar godi proffil y Gadeirlan a chynyddu nifer yr ymwelwyr.
Cred Olivia fod y gymuned yn rhan annatod o Gadeirlan gyfoes ac yn croesawu pob math o gydweithio. Fel un sydd wedi graddio â gradd Meistri o’r Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymreig ac Academi Llais Rhyngwladol Cymru, mae Olivia’n mwynhau gyfra fel unawdydd.
Ian Cameron, Prif Ystlydd
Mae Ian yn Sarjant Heddlu De Cymru sydd bellach wedi ymddeol. Fe’i aned yng Ngogledd Iwerddon a daeth i Gymru ym 1985 i astudio Diwinyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Llambed.
Yn ystod ei 30 mlynedd gyda’r Heddlu, fe weithiodd ar draws y Cymoedd a Dinas Caerdydd. Mae sgiliau ymarferol Ian ynghŷd â’i ymarweddiad croesawgar yn ei wneud yn rhan annatod o’r tîm.
Sue King, Pennaeth Marchnata a Digwyddiadau
Mae Sue King yn ymuno â’r tîm dros gyfnod mamolaeth Olivia Moore, ein Pennaeth Marchnata a Digwyddiadau.
Roedd Sue yn ddisgybl yn ysgol Howell’s a chanodd gyntaf yn y Gadeirlan yn 1975. Astudiodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth a dychwelodd i Gaerdydd i weithio i Cymorth Cristnogol. Bu’n Rheolwr Rhaglenni a Digwyddiadau yn Neuadd Dewi Sant am 25 mlynedd, lle bu’n mwynhau gweithio gyda cherddorfeydd, asiantau, hyrwyddwyr, grwpiau addysgol, dinesig a chymunedol, elusennau ac unigolion i gyflwyno ystod eang o ddigwyddiadau.
Mehdi Bakala
Mae Mehdi Bakala yn ymuno â ni o Brifysgol Metropolitan Caerdydd ar ein Cynllun Interniaeth Haf. Ar hyn o bryd mae Mehdi yn astudio ar gyfer Gradd Meistr mewn Rheoli Prosiectau Digwyddiadau. Yn gyn-bêl-droediwr proffesiynol, mae Mehdi yn weithiwr marchnata proffesiynol profiadol gydag arbenigedd mewn brandio a rheoli prosiectau.
Staff yr Adran Gerddoriaeth
Mae’r Adran Gerddoriaeth yn cael ei arwain gan Stephen Moore, y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth