Er fod y Gadeirlan wedi’I wreiddio mewn hanes, mae’n gymuned fyw yn hytrach nag amgueddfa. Mae’r gymuned yn dibynnu’n helaeth ar ewyllys da a haelioni’r dorf o wirfoddolwyr sy’n gweithio law yn llaw gyad’r offeiriadaeth a’r staff.
O weithio yn y siop i stiwardio, trefnu blodau i ganu’r clychau, gweinyddu wrth yr allor i arwain yr Ysgol Sul, mae myrdd o gyfleoedd ar gael i gyfrannu tuag at waith a bywyd cymuned y Gadeirlan.
Dyma rai o’r cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael:
-
Croesawydd
Mae’n croesawyr yn hanfodol er mwyn darparu croeso cynnes i ymwelwyr. Mae’n gyfle I gwrdd â’r bobl ddiddorol sy’n ymweld â’r Gadeirlan a dysgu mwy am hanes yr adeilad.
-
Tîm Gweinyddion yr Allor
Mae’r tîm sy’n gweinyddu’r allor yn cynorthwyo’r offeiriad ar fore Sul.
-
Yr Urdd Flodau
Mae Urdd Flodau’r Gadeirlan yn chwarae rhan allweddol yng ngwyliau’r Pasg a’r Nadolig, tra’n creu gosodiadau wythnosol heblaw y Grawys a’r Adfent.
-
Canu’r clychau
Mae’r tîm sy’n canu’r clychau’n cwrdd bob nos Fawrth ac yn canu’r clychau ar y Sul ac ar achlysuron arbennig.
-
Cydlynydd Gwirfoddoli ar gyfer Brecwast y Plwyf
Yn dilyn gwasanaeth Cymun Bob Oed am 9yb ar y Sul, mae’r Cydlynydd Gwirfoddoli’n trefnu a chefnogi’r tîm o weithwyr sy’n gweini tê a choffi yn Nhŷ’r Prebend
-
Rhoi help llaw ym Mrecwast y Plwyf
Yn Dilyn gwasaneth Cymun Bob Oed am 9yb ar y Sul, mae criw gwerthfawr yn gweini tê a choffi yn Nhŷ’r Prebend
-
Stiwardiaid y Plwyf
Rydym yn ffodus o gael criw arbennig o Stiwardiaid y Plwyf sy’n cynorthwyo yn y Cymun 9yb drwy groesawu ymwelwyr a sicrhau diogelwch y gynulleidfa
-
Siop y Gadeirlan
Mae gennym dîm gwerthfawr o wirfoddolwyr sy’n cadw’r siop yn agored yn ddyddiol
-
Arweinydd Ysgol Sul
Mae’r Gadeirlan yn ffodus o gael Ysgol Sul enfawr gyda dros 150 o blant. Ni fyddai hyn yn bosib heb griw arbennig o arweinyddion sy’n addysgu’r plant.
-
Eiriolwyr
Mae Eiriolwyr y Cymun Corawl yn arwain y gweddïo yn y gwasanaeth 11yb ar y Sul.
-
Gwirfoddoli ar gyfer Ffrydio Byw
Mae criw bychan o wirfoddolwyr yn cynorthwyo gyda’r Ffrydio Byw o’r gwasanaethau am 11yb a 4yp bob Sul ac ar achlysuron arbennig.
-
Cyfrifyddion y Casgliad
Mae’r criw bychan sy’n cyfrif y casgliad yn rheoli’ rhoddion o arian parody n wythnosol.
-
Arweinyddion Teithiau Tywys
Mae’r rhai sy’n arwain ein Teithiau Tywys yn wybodus iawn am hanes y Gadeirlan ac yn rhannu’u gwybodaeth gydag ymwelwyr o bedwar ban y byd.
-
Stiwardiaid Digwyddiadau
Mae’r Stiwardiaid Digwyddiadau’n darparu gwasanaeth swyddog tân ac yn cynorthwyo trefnwyr cyngherddau.
-
Gweithgor Dydd Sadwrn
Mae Gweithgor Dydd Sadwrn yn cynorthwyo gyda nifer o dasgau DIY o gwmpas y Gadeirlan a’r cyffiniau.
-
Aelodau Cyngor Cymuned Cadeirlan Llandaf
Mae aelodau’r CCCL yn cael eu hethol yn flynyddol i ymuno â’r corff sy’n cefnogi’r Deon a’r Cabidwl.